Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Medi 2021
Amser:
13.30 -
15.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12425
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Jayne Bryant AS Peter Fox AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Chris Warner, Llywodraeth Cymru Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(6)043 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.
3.2 SL(6)045 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(6)042 - Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)046 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Gohebiaeth â’r Prif Weinidog: Craffu ar reoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd - Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd i ddychwelyd at y dystiolaeth hon yn ystod ei drafodaethau ar gynllunio strategol yn ystod y cyfarfod nesaf.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cymwysterau Proffesiynol - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd i gwblhau'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 30 Medi 2021.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd a chytunodd arno, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 23 Medi 2021.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth ar frys am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â'r Memorandwm. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y Memorandwm yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
11 Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 13 Medi 2021 - trafod yr adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, a chytunodd y byddai'n cael ei osod gerbron y Senedd maes o law.